Gwybodaeth cadw lle ar gyrsiau:

Llwythwch i lawr y gwybodaeth archebu

Cyrsiau Preswyl:

Mae cyrsiau preswyl yn cael eu harchebu yn ystod tymor y gwanwyn cyn dechrau’r flwyddyn academaidd ddilynol. Yn aml ceir gormod o geisiadau na sydd o le ar amseroedd penodol o’r flwyddyn ac ar ôl y dyddiad cau dyrannir cyrsiau, gan gymryd ystyriaeth o ddefnydd blaenorol o’r ganolfan. Pe baech eisiau mwy o wybodaeth ynghylch sut i gadw lle ar gwrs preswyl ar gyfer blwyddyn academaidd 2008-2009 cysylltwch â’r ganolfan i gael pecyn archebu cwrs preswyl.

Archebu Hwyr:

Mae gennym nifer o wythnosau gwag ar ôl diwedd y broses archebu cyrsiau preswyl, felly os ydych yn dymuno cadw lle ar gwrs ar ôl hyn edrychwch ar y dyddiadau preswyl sydd ar gael. Byddwn yn ymdrechu i ddarparu amser addas ar eich cyfer, cysylltwch â’r ganolfan i drafod eich gofynion.

Archebu Cyrsiau Arbenigol:

Cysylltwch â’r ganolfan pe baech yn dymuno archebu cwrs arbenigol, byddwn yn trafod eich gofynion ac yn anfon y gwaith papur priodol atoch.

Gwaith papur:

Cyn eich cwrs, byddwch yn cael cyfarwyddiadau ymuno, rhestr o offer, ffurflenni caniatâd a ffurflenni meddygol rhieni, a ffurflen grynodeb. Rhaid dychwelyd y ffurflenni o leiaf 7 diwrnod cyn i chi gyrraedd. Byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn i drafod y rhaglen weithgareddau a chynlluniau terfynol eraill.