Cyfleusterau:

Mae gan Nant amrywiaeth eang o gyfleusterau a ddylai fodloni eich holl ofynion.

Y llety:

Credwn fod gennym bopeth sydd arnoch ei angen i wneud i chi deimlo’n gartrefol. Mae lle i grŵp o 36 yn gyffyrddus yn ein hystafell fwyta, ac mae  digon o fwyd a diod yn y gegin, heb sôn am ddwy gogyddes ardderchog! Ar gyfer y staff mae gennym ystafell staff ymweld gyda digon o le ar y soffa ar gyfer tîm pêl-droed a chyfrifiadur a set o gamerâu i chi gadw cofnod o’ch ymweliad. Mae lle i 8 gysgu yn ein hystafelloedd myfyrwyr, a 2 yn ein hystafelloedd staff.  Maent oll yn en-suite. Hefyd mae gennym ddosbarth mawr gyda chyfleusterau newid ychwanegol gan sicrhau bod digon o le i bawb.

Y gweithgareddau:

Mae gennym ddewis eang o offer arbenigol i wneud eich amser yma yn fwy cyffyrddus.  Mae ein capel yn cadw ein hoffer cyffredinol (dillad gwrth-ddŵr, esgidiau cerdded, hetiau a menig) yn ogystal â’n wal ddringo a’n hoffer dringo. Hefyd mae gennym storfa chwaraeon dŵr, ble ceir popeth o siwtiau gwlyb i esgidiau glaw.

Bydd ein bysiau mini yn mynd a chi i ble bynnag rydych eisiau mynd, a bydd ein hystafell sychu yn sicrhau y bydd eich dillad yn gynnes ac yn barod ar gyfer y gweithgareddau.

Amser Rhydd:

Mae gennym ystafell gemau   gyda bwrdd pŵl, tennis bwrdd ac amrywiaeth o gemau bwrdd i’ch diddori yn ystod eich amser rhydd.  Mae lolfa arall yn darparu man tawel i chi ymlacio gyda ffrindiau a dal i fyny ar weithgareddau’r dydd.