Gwybodaeth i Rieni:

Tra bydd eich plant yn llwyr fwynhau eu hamser yn Nant mae’n werth cofio mai ymweliad addysgiadol ydyw, ac nid gwyliau. Yn ogystal â chymryd rhan ym mhob gweithgaredd awyr agored, anogir disgyblion i helpu gyda’r tasgau cyffredinol o ddydd i ddydd ar lefel ddomestig. Credwn fod gweithgareddau megis tacluso’r ystafell wely, gosod y bwrdd neu sgubo’r llawr yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu teimlad o ysbryd tîm, hunan gynhaliaeth a hunan barch, cymaint â’n gweithgareddau mwy anturus. Mae hethos ein 4 'C' sef; ceisio, cydweithredu, cyfathrebu a cydymdeimlo yn ymestyn i’r ystafell fwyta, yr ystafelloedd gwely, y dosbarth a’r byd ehangach. Efallai mai’r her anoddaf ar gyfer rhai plant fydd blasu bwyd newydd am y tro cyntaf, neu i wneud eu gwely. Ac yn awr at y darn cyffrous... y gweithgareddau antur! Efallai y bydd eich plentyn yn abseilio oddi ar glogwyn, yn llithro i lawr rhaeadr, ac yn dod o hyd i’w ffordd trwy’r goedwig! Ond gwneir popeth gyda gofal ac ystyriaeth o’ch plentyn, a fydd yn cael ei a/hannog i ddod dros eu pryderon a’u hofnau, ac ni fyddant yn cael eu gorfodi i wneud unrhyw beth nad ydynt wirioneddol eisiau ei wneud.  Fel gyda phob gweithgaredd awyr agored, mae gan y gweithgareddau yn Nant elfen o berygl greddfol, ond mae ein staff awyr agored arbenigol yn sicrhau bod ein cofnod diogelwch 30 mlynedd ardderchog yn cael ei gynnal. Elfen bwysig o’r cwrs yw i fyfyrwyr ddysgu i adnabod beth all fod yn beryglus, ac yna sut i gadw eu hunain yn ddiogel yn yr amgylchedd hwnnw. Pe baech yn bryderus cysylltwch â’r ganolfan a byddwn yn ceisio tawelu eich meddwl. Rydym yn sicr y bydd eich plentyn yn mwynhau eu hamser gyda ni, ac y bydd ef/hi yn dod adref gyda llu o atgofion!