Rheolaeth Diogelwch yn Nant BH

Mae gan Nant BH enw a chofnod ardderchog o weithgareddau awyr agored ansawdd uchel dros fwy na 30 blwydd o weithrediad.

Yr ydym yn cydymffurfio gyda pholisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yr ydym yn cael ein harchwilio yn rheolaidd gan Iechyd a Diogelwch Corfforedig. Hefyd. Mae gennym drwydded a ddyrannwyd gan y Gwasanaeth Trwyddedu Gweithgareddau Antutus (AALS): Rhif Cyfeirnod R0102: Rhif Trwydded L407. Mae ennill trwydded yn golygu ein bod wedi cael ein harolygu gan y gwasanaeth ac mae ein systemau rheoli risg yn foddhaol. Am fwy o fanylion ynglŷn â beth mae’r drwydded yn golygu, gwelwch wefan y Gwasanaeth Trwyddedu www.aals.org.uk

Wrth ddilyn canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn ag ymweliadau addysgol, nid ydym yn gyrru allan ein hasesiadau risg a’n trefn gweithredu, ond mae copïau ar gael i’w arolygu ar y safle ac mae copi o’r ffurflen darparwr annibynnol dros Nant BH ar gael i’w lwytho i lawr o’r safle hwn.

Os ydych angen mwy o fanylion, cysylltwch â minnau ar y ffon 01492 640735 neu e-bost martin.land@conwy.gov.uk