|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cartref
|
Swyddogaeth staff sy’n ymweld:Mae gan staff sy’n ymweld sy’n dod gyda grwpiau i Nant swyddogaeth bwysig. Byddwn yn gofyn i chi fod yn bresennol gydag un o’r grwpiau yn ystod gweithgareddau, er peidiwch â phoeni, gallwn drefnu’r rhaglen fel na ofynnir i chi wneud gweithgareddau sy’n rhy ddychrynllyd! Yn amlwg byddwch yn adnabod yr unigolion sydd gyda chi, ac mae’n bwysig eich bod yn gallu rhannu’r wybodaeth hon gyda ni i sicrhau eu bod yn cael amser diogel a phleserus. Gall hyn gynnwys gwybodaeth feddygol, materion ymddygiad ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall y gall effeithio ar sut mae'r disgyblion yn debygol o ymateb mewn amgylchedd newydd a chyffrous. Yn ystod cyrsiau preswyl, fel staff ymweld byddwch yn gyfrifol am ofal bugeiliol y disgyblion yn ystod eich amser yma. Y rhan fwyaf o nosweithiau bydd aelod o staff Nant ar gael i gynnal gweithgaredd gyda’r nos ar eich cyfer ond ar un noson yn ystod pob cwrs, byddwch ar eich pen eich hun. Efallai y bydd gennych eisoes ddigon o gemau a syniadau i lenwi’r noson, neu fe allwn roi awgrymiadau i chi. Dros nos, mae system ar-alwad, i sicrhau bod aelod o staff Nant ar gael pe bai argyfwng. Mae rhai grwpiau yn gofyn ynglŷn â nifer y staff ymweld ar gyfer ymweliad preswyl - yn ddelfrydol dylid cael 3 ar gyfer grŵp o 30 gan fod hyn yn galluogi i aelod o staff fod yn bresennol gyda phob grŵp gweithgaredd yn ystod y dydd, fodd bynnag rydym yn mynnu cael 2 fel isafswm. Bydd rhaid i chi ddilyn canllawiau eich AALl / CYA ar gymarebau. Gall staff ymweld fod yn athrawon, cymhorthwyr dosbarth, gweithwyr ieuenctid neu weithiau’n rhieni, ond rhaid iddynt oll gael eu cymeradwyo gan bennaeth yr ysgol a chael archwiliad gan y Biwro Cofnodion Troseddol. Rhaid i chi fod yn fodlon cymryd cyfrifoldeb am y plant pe bai problem. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||