|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cartref
|
Yr ydym wedi apwyntio dwy hyfforddwraig newydd. Dechreuodd Amy a Jenny ym mis medi. Edrychwch ar ein safle Newyddion Diweddaraf
Croeso i Nant BHMae Nant Bwlch yr Haearn yn rhan o Wasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Ddwyrain Cymru. Rydym yn darparu ein gwasanaethau yn bennaf i ysgolion a cholegau o Gonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, yn ogystal â gweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid a sefydliadau eraill o fewn y pedair sir. Mae’r ganolfan yn uchel yng nghanol coedwig Gwydir, ger Llanrwst, gyda golygfeydd trawiadol o Barc Cenedlaethol Eryri, rydym mewn man delfrydol ger coedwigoedd, llynnoedd, afonydd a mynyddoedd ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau cyffrous megis cerdded ceunentydd, dringo, cyfeiriannu, beicio mynydd a chanŵio. Mae bywyd gwyllt y goedwig a gweddillion y gorffennol glofaol diwydiannol yn ychwanegu dimensiwn arall at unrhyw ymweliad.
CyrsiauRydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau preswyl, dydd ac ymestynnol – o gyrsiau awyr agored ac amgylcheddol ar gyfer pobl ifanc i wobrau Cyrff Llywodraethol (e.e. Arweinydd Mynydd) a chyrsiau adeiladu tîm ar gyfer oedolion. Mae lle i 30 disgybl a 4 aelod o staff yn y ganolfan ar gwrs preswyl, neu hyd at ddosbarth llawn ar gyfer ymweliad diwrnod. Diogelwch yn gyntafMae’r ganolfan wedi ei chymeradwyo i gynnal gweithgareddau ar gyfer pob oedran, drwy’r Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Anturus Adventure Activities Licensing Service (AALS) ac mae ganddi gefndir diogelwch ardderchog. Ein cyfeirnod AALA yw R0102, a rhif trwydded: L4707 Addysg awyr agored o safonCyflwynir pob cwrs gan addysgwyr awyr agored profiadol sydd â chymwysterau o safon uchel. Beth bynnag yw’r cwrs, rydym yn hyderus y byddwch chi a’ch grŵp yn cael profiad ysbrydoledig, addysgol a llawn gwobrau…byddwch hefyd yn cael llawer o hwyl! |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||