Croeso
Canolfan Addysg Awyr Agored yw canolfan Pentrellyncymer. Lleolwyd y ganolfan tua 3 milltir o Gerrigydrudion mewn ardal o brydferthwch naturiol. Bu Pentrellyncymer unwaith yn ysgol gynradd wledig i’r pentre bychan. Wedi’i leoli mewn gwlad goediog hardd ger Llyn Brenig a Chronfa’r Alwen, mae wedi’i leoli’n ddelfrydol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau.
Mae lleoliad y ganolfan yn galluogi i ni gynnal cyrsiau addysg awyr agored i ysgolion cynradd Gogledd Ddwyrain Cymru. Gallem hefyd cynnal cyrsiau arbennigol ar gyfer oedolion a busnesi.
Mae’r gweithgareddau y bydd ymwelwyr yn mynychu yn cael eu cynnal gan staff cyfeillgar, profiadol a phroffesiynol a wnaiff sicerhau eu bod yn cael profiad diogel bythgofiadwy.
|