Digwyddiadau Nant BH

Rasys a Digwyddiadau Rhedeg Llwybr yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Nant BH

Mae Canolfan Nant BH yn lleoliad gwych i gynnal digwyddiadau. Mae’r Ganolfan wedi bod yn darparu cyrsiau addysg awyr agored i grwpiau ysgol o Ogledd Cymru ers bron i 60 o flynyddoedd, gyda llawer o deuluoedd lleol yn rhannu atgofion gwych o’r amser y bu iddynt ei dreulio yn y Canolfannau. Gan ein bod wedi’n lleoli yng nghanol coedwig Gwydir, uwchben Llanrwst a Betws-y-coed, mae’r Ganolfan yn gwneud pencadlys perffaith ar gyfer digwyddiadau gyda mynediad at filltiroedd o lwybrau coedwig a llynnoedd ar garreg ein drws. Unwaith i’r digwyddiad ddod i ben am y diwrnod mae’r ganolfan yn lleoliad delfrydol i ddychwelyd iddo gyda chyfleusterau newid a bydd y caffi ar agor yn gwerthu te, coffi, rholiau poeth a chacennau i’r holl wylwyr a raswyr llwglyd. 

Ceir rhagor o fanylion am y Canolfannau yma. www.nwoes.co.uk

Rydym yn gobeithio sefydlu ras flynyddol a fydd yn helpu i gefnogi’r Canolfannau i barhau i ddarparu cyrsiau addysg awyr agored o safon uchel i grwpiau ysgol o Ogledd Cymru.    

Yn anffodus cafodd dyddiad gwreiddiol Ras Lwybr Llyn y Parc ei ganslo diolch i Storm Bert. Gobeithio y cawn ni dywydd gwell ar y dyddiad newydd, sef dydd Sadwrn 15fed Chwefror 2025.

Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni i wneud y rhain yn llwyddiant!