Dydd Sul 24 Tachwedd 2024
Dewch i ymuno â ni i redeg ar hyd rywfaint o lwybrau gwych trwy’r goedwig, ar bellteroedd o 5K neu 10K, a ras llwybrau 2K i blant iau dros 10 oed. Mae pob ras yn dechrau ac yn gorffen yng Nghanolfan Nant BH. Mae rhywfaint o lefydd parcio ar gael yn y Ganolfan, gyda maes parcio mwy yn Llanrwst, a gwasanaeth gwennol bws mini yn cael ei ddarparu i fynd â chi i’r ganolfan (bws gwennol oddeutu bob 15 munud).
Bydd gofyniad cit gorfodol ar gyfer y llwybr 5K a 10K. Gall y tywydd ym mis Tachwedd fod yn anrhagweladwy, ac mae’r goedwig yn eithaf agored mewn rhai mannau, felly bydd angen i chi wneud yn siŵr bod gennych brofiad o redeg o dan yr amodau hyn a allai fod yn fwy heriol. Efallai y bydd gwyntoedd cryfion, glaw llorweddol, yn bwrw eira neu hyd yn oed yn osteg a heulog! Pwy a ŵyr?
Map.
Gellir cofrestru ar gyfer pob ras trwy Fabian4 ( https://www.fabian4.co.uk/default.aspx?EventID=3818 ), gyda’r cofrestriadau yn agor ddydd Mawrth 24 Medi, ac yn cau ddydd Iau 21 Tachwedd. Efallai y bydd cyfleoedd cyfyngedig i gofrestru ar y diwrnod, am gost atodol, ond nid oes modd gwarantu hynny! Bydd y rasys 5K a 10K yn cynnwys amseru electronig RaceTek, cofarwydd ar ôl cwblhau’r ras yn ogystal â chawl a rhôl ar ôl i chi orffen. Nid yw’r ras 2K i blant iau wedi’i amseru’n electronig, ond mae’n dal yn cynnwys cofarwydd ar ôl cwblhau’r ras a chawl a rhôl ar ôl gorffen. Bydd cofrestru yn y Ganolfan ar agor o 9am ar ddiwrnod y ras. Bydd pob cwrs wedi’i farcio’n llawn gyda marsialiaid ar bwyntiau allweddol.
Llyn Y Parc 5K
Llwybr gwych sy’n gwneud cylch mawr trwy lwybrau’r goedwig at Lyn y Parc cyn dychwelyd at y Ganolfan ar hyd llwybrau llai.
Mae’n rhaid bod yn 14 oed ar ddiwrnod y ras i gymryd rhan.
Mae’n costio £15 i gofrestru ar gyfer y ras, yn cynnwys amseru RaceTek.
Nid yw rhannau o’r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn neu bramiau.
Mae cofrestru yn agor am 9am ac yn cau am 10:10am (20 munud cyn i’r ras ddechrau).
Amser dechrau’r ras yw 10:30am
Map ar gyfer y ras 5K
Llyn Y Parc 10K
Y ras hiraf! Llwybr heriol sy’n mynd i lawr o Ganolfan Nant BH i Fetws-y-coed ar draciau coedwig. Ar ôl rhan fechan o ffordd wledig dawel mae angen dringo i fyny llwybr troed anodd at geunant hyfryd Aberlllyn i ailymuno â’r llwybr 5K ar hyd llwybr traethlin Llyn y Parc a dychwelyd i’r ganolfan drwy fynd ar hyd llwybrau traciau sengl mwy technegol.
Mae’n rhaid bod yn 16 oed ar ddiwrnod y ras i gymryd rhan.
Mae’n costio £20 i gofrestru ar gyfer y ras, yn cynnwys amseru RaceTek.
Nid yw rhannau o’r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn neu bramiau.
Mae cofrestru yn agor am 9am ac yn cau am 10:40am (20 munud cyn i’r ras ddechrau).
Amser dechrau’r ras yw 11am
Map ar gyfer y ras 10K
Llyn Y Parc 2K
Ras hwyl fer i blant iau 10 i 14 oed (oed ar y diwrnod). Mae’r llwybr yn cynnwys llwybrau coedwig, a llwybrau troed coedwig anwastad mwy garw. Bydd y llwybr wedi’i farcio gyda marsialiaid ar bwyntiau allweddol.
Mae’n rhaid bod yn 10 oed ar ddiwrnod y ras i gymryd rhan.
Yr uchafswm oed yw 14 oed ar ddiwrnod y ras.
Mynediad i’r ras £5
Mae cofrestru yn agor am 9am ac yn cau am 10:10am (20 munud cyn i’r ras ddechrau).
Amser dechrau’r ras yw 10:30am
Map ar gyfer y ras 2K