Gwybodaeth DERFYNOL i Gystadleuwyr Cyn y Ras:
Rhagolwg y Swyddfa Dywydd ar gyfer dydd Sadwrn:
Ar hyn o bryd (dydd Llun 10fed), mae rhagolygon y tywydd ar gyfer dydd Sadwrn yn oer (bron yn rhewi) gyda gwyntoedd ysgafn a chymylog. Byddwn yn gwirio rhagolygon terfynol ac yn rhoi diweddariad ddydd Iau, ond gobeithio y tro hwn y bydd y Ras yn mynd ymlaen!
CANOLFAN Y DIGWYDDIAD / LLEOLIAD: Canolfan Addysg Awyr Agored Nant Bwlch yr Haearn, LL27 0JB. Cyfeirnod Grid: SH778593
Lleolir y ganolfan ar y ffordd drwy goedwig Gwydir ar ben yr allt, hanner ffordd rhwng Tŷ Hyll a Chastell Gwydir. Dewch o hyd i ni ar Google Maps.
PARCIO: Ceisiwch rannu cludiant lle bo’n bosibl gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Wrth gyrraedd, parciwch yn ystyriol. Bydd aelod o staff y ganolfan wrth law i’ch cyfeirio. Bydd mannau parcio ychwanegol ar gael mewn meysydd parcio cyfagos. Mae maes parcio Llyn Sarnau reit drws nesaf. Mae mwynglawdd Hafna GR780600 (ochr Llanrwst ) 600m i ffwrdd yn fras. Mae Mwynglawdd Cyffty GR772588 (Ochr Tŷ Hyll) 400m i ffwrdd yn fras. Peidiwch â pharcio ar draciau coedwig o amgylch y ganolfan oni bai y gofynnir i chi wneud hynny. Mae’r traciau hyn yn cael eu defnyddio gan drigolion lleol er mwyn cael mynediad i’w heiddo.
CŴN: Ni chaniateir cŵn yn y ras. Yr eithriad yw cŵn Cymorth Meddygol trwy drefniant ymlaen llaw gyda threfnydd y ras. Mae’r ganolfan a’r tiroedd yn cael eu defnyddio’n gyson gan grwpiau ysgol sy’n ymweld felly cofiwch gadw cŵn ar dennyn a thacluso ar eu hôl.
COFRESTRU AR GYFER Y RAS: Bydd cofrestru’n agor am 9am tan 10am lle byddwch yn gallu casglu eich rhif ras a band arddwrn amseru RaceTek. Bydd copïau o fapiau’r ras yn cael eu harddangos ynghyd ag unrhyw ofynion cit penodol. Bydd toiledau ar gael adeg cofrestru.
AMSEROEDD CYCHWYN Y RAS: Bydd briff am y ras am 10:15am yn y ganolfan. Rydym ni’n bwriadu cychwyn POB ras yn fuan ar ôl 10:30am. Mae man cychwyn y ras 5 munud ar droed o’r man cofrestru.
DISGRIFIADAU TIR / LLWYBR: Bydd pob llwybr yn defnyddio cymysgedd o ffyrdd coedwig a llwybrau trac sengl gan ddechrau a gorffen o Ganolfan Addysg Awyr Agored Nant Bwlch yr Haearn. BYDD y digwyddiad hwn yn cynnwys rhedeg ar dir gwlyb, creigiau llithrig a gwreiddiau coed, rhywfaint o dir creigiog serth ac weithiau â cherrig rhydd dan draed. Bydd y llwybrau’n cael eu stiwardio mewn mannau allweddol a’u harwyddo gan saethau, tâp coch/gwyn a/neu faneri oren bach ar hyd y ffordd. Er bod hwn yn amser tawelach o’r flwyddyn, byddwch yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill y goedwig (cerddwyr a beicwyr mynydd) a’u parchu.
GOFYNION Y CIT: Rhaid i bob rhedwr felly ddod â chit llawn, a bod yn barod i’w wisgo neu ei gario – bydd rhestr derfynol o’r gofynion hyn yn cael ei harddangos wrth gofrestru. Gorchudd corff llawn (top a throwsus gwrth-ddŵr / gwrthwynt), het neu ‘Buff’, esgidiau rhedeg llwybrau. RHAID i rifau ras fod yn weladwy ar du allan y dillad.
TREFN ARGYFWNG: RHAID i bob rhedwr fynd at y llinell derfyn hyd yn oed os penderfynwch roi’r gorau i’r ras. Dylid rhoi gwybod wrth y man stiwardio nesaf ar y cwrs am redwyr sydd wedi cael anaf (Cymorth Cyntaf + cyfathrebu radio gyda phencadlys y ras). Bydd ysgubwr yn dilyn y rhedwr olaf ar y cwrs.
CAWL A RHÔL: Bydd cawl a rhôl am ddim ar gael i bob rhedwr a stiward yn ystafell fwyta’r ganolfan o 11:15 ymlaen. Dewch â’ch rhif ras.
LLUNIAETH: Bydd y gegin hefyd yn gwerthu te / coffi, rhôl selsig, sglodion a chacennau …. Felly dewch ag arian parod. Bydd y rhain ar gael o 9am.
CATEGORÏAU GWOBRAU: Cyflwynir y gwobrau cyn gynted ag y bydd yr holl redwyr wedi cyrraedd yn ôl. Rhoddir gwobr i’r 3 Gwryw a Benyw cyntaf dros bawb yn y rasys 5km a 10km ac yna i enillwyr pob categori grŵp oedran (U23 / AAA / V40 / V50 / V60 / V70).
CANLYNIADAU: ar gael yn https://www.racetek-live.co.uk/